Joel 3

Yr Arglwydd yn barnu y cenhedloedd

1Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.

2Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd
i “Ddyffryn Barn yr Arglwydd
3:2 Dyffryn Barn yr Arglwydd Hebraeg, “Dyffryn Jehosaffat”, sy'n golygu “Y Dyffryn ble mae'r Arglwydd yn barnu”.

Yno bydda i'n eu barnu nhw
am y ffordd maen nhw wedi trin
fy mhobl arbennig i, Israel.
Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman, b
rhannu y tir rois i iddyn nhw
3a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion.
Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,
a merch fach am win i'w yfed.

4Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon
3:4 Tyrus a Sidon Dwy dref ar arfordir Phoenicia.
ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi!
5Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. 6Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain. 7Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! 8Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid
3:8 Sabeaid Pobl Seba, ardal yn ne-orllewin Arabia.
sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr Arglwydd, wedi dweud!

Dyffryn Barn yr Arglwydd

9Cyhoedda wrth y cenhedloedd:

Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.
Galwch eich milwyr gorau!
Dewch yn eich blaen i ymosod!
10Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,
a'ch crymanau tocio yn waywffyn.
3:10 Curwch … waywffyn Yn wahanol i Eseia 2:4 a Micha 4:3, yma mae offer ffermio yn cael eu troi yn arfau rhyfel. Mae Eseia a Micha yn cyfeirio at yr heddwch sydd i ddod, ond mae Joel yn sôn am gyfnod o farn.

Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”
11Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.
Dewch at eich gilydd yno!
(“Arglwydd, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)
3:11 Arglwydd … yno! Mae'r weddi yma (gan y proffwyd?) yn torri ar draws yr alwad i'r cenhedloedd paganaidd. Mae'n weddi ar Dduw i anfon ei fyddin nefol i ddelio gyda nhw.

12Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd,
i Ddyffryn Barn yr Arglwydd.
3:12 Dyffryn Barn yr Arglwydd gw. nodyn ar 3:2.

Yno bydda i'n eistedd i lawr
i farnu'r cenhedloedd i gyd.
13Mae'r cynhaeaf yn barod
i'w fedi gyda'r cryman!
Mae'r gwinwasg yn llawn grawnwin
sy'n barod i'w sathru!
3:13 sathru Roedd pobl yn sathru grawnwin gyda'i traed, i wasgu'r sudd allan.

Bydd y cafnau yn gorlifo!
Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
14Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!
Mae dydd barn yr Arglwydd yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!
15Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu,
a'r sêr wedi diflannu.
16Mae'r Arglwydd yn rhuo o Seion;
a'i lais yn taranu o Jerwsalem, i
nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu.
Ond mae'r Arglwydd yn lle saff i'w bobl guddio ynddo,
mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel. j
17Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r Arglwydd eich Duw
a'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.
Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig, k
a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.

Adfer Jwda a Jerwsalem

18Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd, l
a llaeth yn llifo o'r bryniau;
fydd nentydd Jwda byth yn sychu.
Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo
allan o deml yr Arglwydd, m
i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia.
3:18 Dyffryn y Coed Acasia Hebraeg, “Dyffryn Sittim”. Mae coed Acasia yn gallu tyfu ar dir sych iawn. Falle ei fod yn cyfeirio at wadi sych iawn rywle yn ardal Jerwsalem.

19Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda,
a lladd pobl ddiniwed yno,
bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag
ac Edom yn anialwch llwm.
20Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser,
ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.
21Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw?
Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw.

Bydda i, yr Arglwydd, yn byw yn Seion am byth!

Copyright information for CYM